Matthew 6

Rhoi i'r tlodion

1“Byddwch yn ofalus i beidio gwneud sioe o'ch crefydd, er mwyn i bobl eraill eich gweld chi. Os gwnewch chi hynny, chewch chi ddim gwobr gan eich Tad yn y nefoedd.

2“Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! 3Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud. 4Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

Gweddi

(Luc 11:2-4)

5“A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! 6Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld e. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.

9“Dyma sut dylech chi weddïo:

‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
10Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,
ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
11Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
12Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn ni'n maddau
i'r rhai sydd mewn dyled i ni.
13Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg.’
6:13 y drwg: Neu yr un drwg sef y diafol. Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu, “Achos ti sy'n teyrnasu, ti sydd â'r grym a'r gogoniant am byth. Amen.” (gw. 1 Cronicl 29:11)

14“Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. 15Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.

Ymprydio

16“Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! 17Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb. 18Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti'n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy'n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

Trysor yn y Nefoedd

(Luc 12:33,34)

19“Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn. 20Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. 21Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.

Arian a meddiannau

(Luc 11:34-36; 16:13)

22“Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo. 23Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti!

24“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.

Peidiwch poeni

(Luc 12:22-31)

25“Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? 26Meddyliwch am adar er enghraifft: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw. 27Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach
6:27 eich bywyd eiliad yn hirach: Neu “eich hun yn dalach”.
trwy boeni!

28“A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. 29Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. c 30Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? 31Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ 32Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. 33Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i'w deyrnasiad e a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd. 34Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.

Copyright information for CYM